DATGANIAD I'R WASG - 21/10/2011
Dyfodol S4C - Mudiadau Iaith yn galw am fabwysiadu argymhellion Pwyllgor Materion Cymreig.
Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i fabwysiadu argymhellion y Pwyllgor dethol ar Faterion Cymreig mewn perthynas â dyfodol S4C.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw nôl ym mis Mai eleni ac mae'n cynrychioli consensws trawsbleidiol ar nifer o argymhellion allweddol gan gynnwys: cynnal adolygiad annibynnol o S4C cyn gynted â phosib; cadarnhau fformiwla ariannu tymor hir wedi'i sicrhau mewn statud gwlad; cwtogiadau llai ar gyllideb y sianel, sef cyffelyb â darlledwyr cyhoeddus eraill; creu S4C aml-blatfform newydd; rhoi rôl mwy blaenllaw i Lywodraeth Cymru yn y berthynas gydag S4C a sicrhau mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y sianel i'r dyfodol.
Gyda'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn gwneud ei daith trwy'r Senedd ar hyn o bryd mae'r Mudiadau'n credu mai'r argymhellion hyn ddylai lywio camau nesaf y llywodraeth wrth benderfynu ar ddyfodol y Sianel.
Dywedodd Tegwen Morris ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg,
"Rydym yn croesawu argymhellion y Pwyllgor dethol ar Faterion Cymreig ac yn credu y dylai'r Llywodraeth arddangos eu hymrwymiad i ddyfodol S4C trwy roi'r argymhellion hynny ar waith. Yn sgil penodi Cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd i'r Sianel yn ystod yr wythnosau diwethaf, credwn nad dyma'r amser i fod yn gwneud penderfyniadau mympwyol ynglyn â dyfodol y Sianel."
Tra'n cydnabod fod y llywodraeth eisoes yn bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau ar hyn o bryd, ystyriwn mai'r cam cyntaf mwyaf rhesymegol ydyw cynnal adolygiad annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr cyn rhuthro i gynnwys S4C mewn unrhyw ddeddf gwlad allai beryglu ei bodolaeth. Ategwn felly alwadau a gafwyd eisoes gan arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru i gynnal adolygiad llawn o'r sianel cyn penderfynu unrhywbeth ."
"Ers ei sefydlu, bu S4C yn gonglfaen i ddiwylliant Cymru ac yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg a'r diwydiant cyfryngol. Chwaraeodd ran ganolog wrth normaleiddio'r iaith Gymraeg, trwy sicrhau fod plant yn clywed yr iaith tu allan i'r ysgol a thrwy gynhyrchu rhaglenni o safon ryngwladol. Rydym felly yn gofyn am gynnal adolygiad ar fyrder er mwyn hwyluso a trafodaeth gyhoeddus ystyrlon ar ddyfodol y sianel a hynny mewn ymgynghoriad llawn â phobl Cymru."