Comisiynydd y Gymraeg – Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn:
- canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan ddatblygu a gosod safonau, datblygu codau ymarfer a sefydlu trefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu system y cynlluniau iaith Gymraeg yn y cyfamser.
- monitro perfformiad cyrff yn unol â’r dyletswyddau sydd arnynt.
- ymdrin â chwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd ynghylch unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau.
- cynghori sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector nad yw’r dyletswyddau statudol a bennir ym Mesur y Gymraeg yn berthnasol iddynt ynghylch arferion da a hybu’r arferion da hynny.
- darparu sylfaen o ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ynghylch sefyllfa’r Gymraeg ac ymchwilio i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r iaith.
- cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion polisi a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.
- craffu’n annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ac ymateb i ddogfennau ymgynghori.
- datblygu’r seilwaith er mwyn helpu pobl eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg (ee mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu).
- ymdrin â cheisiadau ynghylch ymyriadau honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.