Mudiadau dathlu'r Gymraeg

Grŵp ymbarel sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg yw Mudiadau Dathlu'r Gymraeg ac sy'n galw am gyfres o fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.

 

Galw am yr Hawl i Ddefnyddio'r Gymraeg


Mae Mudiad Dathlu’r Gymraeg yn galw am:

1.) Camau cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau, gan gynnwys:

2.) Statws Swyddogol i’r Iaith Gymraeg.

3.) Hawliau statudol i bawb o bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.

4) Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

5.) Sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.

 

Mae
Cyfeillion y Ddaear,
Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru,
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru,
Cymdeithas y Cymod,
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, CYDAG,
Cymuned, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,
Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr,
Mudiad Ffermwyr Ifanc, RHAG,
Undeb Amaethwyr Cymru, UCAC,
UMCA, UMCB,
ac Urdd Gobaith Cymru
yn rhan o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg