Archifau Categori: Datganiadau

Cynhadledd Dyfodol Darlledu Cymraeg

Gyda chylch gorchwyl S4C a’i fformiwla ariannu yn cael ei adolygu ar gyfer y cyfnod wedi 2017 a’r disgwyliad i’r Llywodraeth gyhoeddi cynnig ynghylch hyn yn y flwyddyn newydd mae maes darlledu yn bwnc trafod amserol a pherthnasol. Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i alw am ddiogelu a chynyddu cyllid S4C ond hefyd i annog meddwl mwy creadigol o ran datblygu defnydd a phresenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau ac ar lwyfannau digidol yn ehangach.

9 Tachwedd 2017

Gweithredu’r Ddeddf Iaith

Heddiw, 30 Mawrth, mae Dathlu’r Gymraeg yn falch i weld fod Deddf Iaith 2011 yn cael ei weithredu. Mae’r Ddeddf yn datgan na ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth, y Cynghorau Sirol a’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol i weithredu yn gadarnhaol ac i gynnig darpariaeth lawn. Mae’r pwyslais wedi symud oddi wrth yr unigolyn a’r cyfrifoldeb nawr ar y cyrff statudol i ddarparu’r gwasanaeth.

Mae Safonau’r Ddeddf Iaith yn gosod rheolau ar gyflenwi gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys cyfarfodydd personol a chyhoeddus a hyfforddiant. Disgwylir i’r cyrff roi cyhoeddusrwydd eang i’r ddarpariaeth newydd.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, “Mae’r broses o weithredu’r Ddeddf Iaith wedi cymryd amser hir ond nawr mae’r gwaith o ddatblygu’r darpariaeth yn gallu dechrau. Byddwn yn annog pobl i ofyn am y gwasanaethau newydd fydd ar gael ac am i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried unrhyw fethiant i weithredu. Mae’n hen bryd fod y Gymraeg yn cael statws cyfartal â’r Saesneg a  does dim esgus i beidio gweithredu’r Safonau newydd. Byddwn yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i roi gwybod am y newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Iaith.”

 

Crynodeb o’r hawliau gan Gymdeithas yr Iaith

crynodebhawliau2016

Dywed Comisiynydd y Gymraeg

Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i  gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).

 

Toriadau yng Nghyllideb yr Iaith Gymraeg

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried y toriadau a fwriedir i gyllideb Yr Iaith Gymraeg. Mae’r gyllideb drafft yn dangos cwymp sylweddol yn yr arian ar gyfer gwaith y Llywodraeth yn hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n fwriad i gwtogi’r gyllideb o £8.6m i £6.9m.  Mae hyn yn doriad arfaethedig o 19% i’r gyllideb ar gyfer prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg. I leihau’r effaith mae’r Llywodraeth yn ystyried neilltuo £1.2m  o gyllidebau eraill ond nid yw hyn yn eglur ac ni fydd yn ddigon i gynnal y gwaith presennol.     

Mae Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o fudiadau iaith, wedi dweud bod y toriadau i’r gyllideb drafft yn cryfhau’r achos dros fabwysiadu targed hir dymor ar gyfer buddsoddi yn y Gymraeg.   Mae maniffesto Dathlu’r Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn gofyn i’r pleidiau gynllunio buddsoddi 1% o gyllideb Cymru mewn mentrau i hybu’r Gymraeg, yr un canran â Gwlad y Basg lle bu twf cyson yn nifer y siaradwyr Basgeg dros y degawdau diwethaf.   

Meddai Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, sy’n cynrychioli dros ugain o fudiadau iaith:  

“Mae’r toriadau hyn yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth nesaf Cymru osod allan targed o ran canran o’r gyllideb a fuddsoddir yn y Gymraeg. Mae targed o 1% yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol ac yn dangos ymrwymiad clir iddi. Fel iaith leiafrifol, mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd dros gyfnod eithaf hir er mwyn cynllunio a gallu cael canlyniadau. Rydyn ni wedi gweld cynseiliau mewn meysydd eraill ar lefel Brydeinig, megis datblygu rhyngwladol, a sut mae targed o’r fath yn gallu cynnig sefydlogrwydd hir dymor. Er enghraifft, mae’n anodd gweld sut allai Comisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol yn effeithiol os yw’r toriadau yn parhau.   

“Wrth reswm, mae cryn bryder o ran gallu’r Llywodraeth i gyflawni eu hamcanion o ran y Gymraeg, os oes toriadau o’r fath yn digwydd. Yn wir, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb yn bodloni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau ffyniant y Gymraeg.” 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i sicrhau fod modd i gadw’r gwariant ar y Gymraeg ar ei lefel presennol ac edrych ar ffyrdd o ehangu’r darpariaeth yn y dyfodol.

Cyllideb Drafft 2016

 

Shwmae Sumae 2015

2015 ShwmaeShwmae a Sumae! Mae’n fis Medi unwaith eto a dyma ni yn dechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Shwmae Sumae 2015. Ry’ ni wedi cyrraedd yr entrychion gyda llaw – Dyddiadur y Lolfa 2016 – Hwre!

Roedd Diwrnod Shwmae Sumae 2014 yn llwyddiant ysgubol, gyda dathliadau yn digwydd ledled Cymru a thu hwnt – ym Mhwllheli, Casnewydd, Merthyr, Llambed, Vienna, Y Wladfa, Bangor, Amlwch, Derby, Fflint a sir Benfro. Pawb yn gweithio yn galed i godi proffeil yr iaith, ond yn bwysicach oll ei defnyddio a’i hyrwyddo ac annog eraill i wneud hefyd drwy gydol y flwyddyn.

Erbyn hyn mae gan Diwrnod Shwmae Sumae momentwm ei hun ac mae’n lledaenu ar hyd y wlad drwy gweithgareddau amrywiaeth o gyrff, ysgolion, unigolion a chymdeithasau, fel ton Mexican mewn gêm bêldroed. Mae’n anodd iawn cadw cyfrif ar bobpeth sy’n digwydd ond o gadw llygad ar yr adborth ar ein tudalen Facebook a chyfrif Twitter rwy’n sicr bod na dros 500 o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yn 2014. Felly gobeitho bod hyd yn oed fwy o bethau ar y gweill eleni.

Fel y gwyddoch mae llwyddiant a pharhâd Diwrnod Shwmae Sumae yn eich dwylo chi, felly rhowch wybod inni am eich digwyddiad drwy gysylltu a’n tudalen Facebook a’n dilyn ni ar @ShwmaeSumae. Mae nifer o awgrymiadau a syniadau ar y dudalen facebook i’ch hysbrydoli gobeithio a rhestr o beth ddigwyddodd yn 2014 ar Facebook

Cofiwch gysylltu gyda mi os ydych chi am drafod unrywbeth
Pob hwyl am y tro

Gaynor

gaynorjones@dathlu.org

2015 Llun2

Diwrnod Shwmae Sumae! 2014 yn ferw yn Nhre’r Sosban!

Ysgol yr Andes2013Am 4 o gloch dydd Llun Awst 4 ym mhod Maes D ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr bydd grwp ymbarél Dathlu’r Gymraeg yn lansio ymgyrch Diwrnod Shwmae Su’mae 2014 (DSS2014) fydd yn cymryd lle unwaith eto eleni ar Hydref 15ed.

Ymhlith y pencampwyr iaith newydd mae Martyn Croydon, Dysgwr y Flwyddyn 2014, y prifardd a’r bragwr, Myrddin ap Dafydd, y gyflwynwraig Angharad Mair a’r awdures Bethan Gwanas ac mae rhagor I ddod.

Cafwyd ymateb anhygoel i’r Diwrnod Shwmae Su’mae! cyntaf yn 2013. Cynhaliwyd 150 o weithgareddau o Wrecsam i’r Andes, gan ysgolion, busnesau, cylchoedd dysgwyr a chymdeithasau. Cynhyrchwyd gweithdai rapio yng Ngheredigion, fideos yn Sir Benfro a boreuon coffi yn Nyffryn Nantlle. Ac mae pethau yn addo berwi drosodd eleni gan bod criw Sir Benfro wedi trefnu seremoni wobrwyo I bobl sydd wedi cyfrannu tuag at Gymreictod y sir. Ac mae disyblion Ysgol yr Archesgob McGrath ym Mhenybont yn gweithio ar syniadau eisioes

Ymgyrch llawr gwlad yw hi sy’n gweithredu heb unryw nawdd ac sy’n dangos fod y Gymraeg yn perthyn I bawb.

Dywed Catrin Dafydd ar ran Dathlu’r Gymraeg:

“Roedd brwdfrydedd pawb llynedd yn ysbrydoliaeth ac wedi ysgogi gwaddol hir dymor. O ganlyniad I fore coffi mewn un ysgol penderfynodd y rhieni di-Gymraeg gychwyn dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion.

“Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Mae rhai Canolfannau Dysgu Cymraeg I Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod I ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb I ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

“Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod I annog pawb yng Nghymru I fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn I bawb sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. A gennym ni bobl Cymru mae’r grym I gadw’r Gymraeg yn fyw. Gall pawb fod yn rhan o’r daith o’r eiliad y byddwn yn dweud shwmae neu su’mae ar ddechrau sgwrs, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg sydd gennym.

Dilynwch ni ar: www.shwmae.org

Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae 2014

Twitter: @shwmaesumae

#DSS2014

Paul Bilbao o fudiad Basgeg Kontseilua ym Merthyr

paul

 

Bydd arbenigwyr iaith a gwleidyddion yn ymgynnull i drafod cyllideb tecach i’r Gymraeg mewn cynhadledd a drefnir gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, ar yr 21ain Fai.

Ymhlith y siaradwyr bydd Kirsty Williams arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ac Andrew RT Daves arweinydd y Ceidwadwyr. Yn dilyn sesiynau’r gwleidyddion bydd cyflwyniadau gan Paul Bilbao o Wlad y Basg, y Cynghorydd Cefin Campbell a fu’n arwain tasglu yn edrych ar sefyllfa y Gymraeg yn Sir Gâr, Siân Lewis o Fenter Iaith Caerdydd, Dai Bryer o’r Urdd a Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Gyngor Gofal Cymru. Bydd gweithgareddau’r dydd yn cael eu llywio gan y darlledwr profiadol Vaughan Roderick.

Meddai Penri Williams o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg:

Lluniwyd papur trafod gennym yn adnabod nifer o feysydd lle gellid targedu buddsoddiad ychwanegol . Rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar i glywed beth fydd gan Paul Bilbao i ddweud gan y medrwn ddysgu llawer oddi wrth brofiad gwlad y Basg.”

Dywedodd Paul Bilbao:

Nid yw iaith lleiafrifol yn cael ei hadennill drwy adnoddau yn unig. Mae angen polisi iaith integredig gan gynnwys rheoliadau digonol, gweithredu a chynllunio manwl.

“Nid faint sy’n cael ei wario yw’r unig fater; mae’r hyn y warir yr arian arno hyd yn oed yn bwysicach. Wrth bennu polisïau iaith a chlustnodi adnoddau, mae’n bwysig canolbwyntio ar ddau brif faes: pobl a llefydd.


“Rhaid i bolisïau dargedu gwybodaeth pobl am yr iaith leiafrifol, ac yn ail y mannau lle mae’n bosibl i ddefnyddio’r iaith a ddysgir, er mwyn byw drwy’r iaith a defnyddio’r iaith.


“Ni allwn rhoi ein holl adnoddau tuag at gael pobl i siarad yr iaith a pheidio darparu llefydd iddynt ddefnyddio’r iaith unwaith y byddant wedi ei meistrioli.”

Mae Paul Bilbao yn Ysgrifenydd Cyffredinol i fudiad Kontseilua (Cyngor Cyrff Cymdeithasol o blaid yr Iaith Fasgeg) a sefydlwyd 10 mlynedd yn ôl gan 45 sefydliad/mudiad amrywiol. Y nôd yw gweithio dros yr iaith Fasgeg fel un corff yn hytrach nag fel mudiadau unigol er hyrwyddo a normaleiddio defnydd o’r iaith Fasgeg.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

AMSERLEN Y DYDD

9.30 Cyrraedd

9.45 Croeso

10.00 Penri Williams, cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg

10.40 Cynghorydd Ernie Galsworthy, Cyngor Bwrdeistref Merthyr

11:00 Leanne Wood AC, Kirsty Williams AC, Andrew RT Davies AC, Keith Davies AC

11.45 Paul Bilbao, ymgyrchydd iaith o Wlad y Basg

12.30 Cyng Cefin Campbell, Cyngor Sir Gâr

13.00 Cinio

13.45 Sian Lewis, Menter Iaith Caerdydd a Dai Bryer, yr Urdd

14.15 Rhian Huws Williams, Cyngor Gofal Cymru

14.40 Trafod Datganiad i’r Pleidiau ystyried wrth greu Maniffesto

15.00 Cyfarfod Blynyddol

Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech fod yn bresennol yn y gynhadledd, cysylltwch â Gaynor Jones: gaynorjones@dathlu.org / 01554 833902 / 07775 847710

Aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg:

CAER, Cronfa Glyndwr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru