Mudiadau dathlu'r Gymraeg

Grŵp ymbarel sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg yw
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg ac sy'n galw am gyfres o
fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.

English
Wep-lyfr  facebook

 

Cynhadledd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg 2008

Trefnwyd cynhadledd arbennig gan Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, 15fed o Orffenaf 2008. Yn ystod y gynhadledd cafwyd anerchaidau gan siaradwyr gwadd, Colin Williams, Elin Haf Gruffudd Jones, Glyn Roberts a Elin Maher a'r Gweinidog Rhodri Glyn Thomas, a Cynog Dafis yn cadeirio.

Sefydlwyd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, sy'n cynnwys 16 mudiad Cenedlaethol, yn Haf 2007 i gyd-weithio ar wthio datblygiadau ym maes y Gymraeg yn rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd y Gynhadledd yn canolbwyntio ar sut fedrwn bwyso ar ddatblygu camau i sicrhau hawliau cydradd i'r Gymraeg o fewn Cymru.

 

Anerchiad y Gweinidog Treftadaeth
15 Gorffennaf 2008

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi gwahodd mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg i weithio gyda’r Llywodraeth er mwyn hybu’r defnydd o’r iaith mewn cymunedau ledled Cymru.
Mewn araith i gynhadledd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, fe dalodd y Gweinidog deyrnged i’r cyrff a’r mudiadau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth ymgyrchu dros y Gymraeg ac yn dylanwadu ar bolisïau iaith ar hyd y blynyddoedd.

Ond fe ddywedodd fod hi'n gyfnod newydd i bolisi iaith a fod y gwaith o greu Cymru wirioneddol ddwyieithog wedi newid yn sgil yr ymrwymiadau yn rhaglen Cymru’n Un. Dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n holl bwysig fod y mudiadau a’r unigolion sydd yn rhannu nod y Llywodraeth o greu Cymru ddwyieithog yn rhan o’r trafodaeth ar sut i wireddu hynny.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas:

Mae’r cyrff fel y rhai sy’n perthyn i Fudiadau Dathlu’r Gymraeg yn bodoli er mwyn bod yn eiriol dros y Gymraeg ac, yn wir, rwy’n croesawu’r faith eich bod wedi dod ynghyd er mwyn dwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddeddfu.

Mae hynny bellach yn mynd i ddigwydd ac fe fyddwn ni’n gosod Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyn diwedd y flwyddyn, er mwyn caniatáu i ni ddeddfu. Yn y cyfamser rwy’n awyddus i drafod pa gamau sydd angen eu cymryd nesa er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg.

Mae’n bwysig i ni helpu siaradwyr Cymraeg sylweddoli fod modd iddynt ddefnyddio’r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg a ddarperir gan gyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod rhaglen Cymru’n Un yn ymrwymo’r Llywodraeth i gyflawni nifer o ddatblygiadau pwysig iawn dros y Gymraeg. Wedi cael yr hawl i ddeddfu roedd y llywodraeth wedi ymrwymo i greu Comisiynydd Iaith, sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg a’r Saesneg a chreu hawliau ieithyddol yn narpariaeth gwasanaethau. Yn ogystal â hynny roedd yna fwriad i greu strategaeth addysg gynhwysfawr a Choleg Ffederal, ac i sicrhau fod yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg Gymraeg drwy eu polisïau trafnidiaeth.