Dyfarnu grantiau i hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg

LInc

Dyma gynllun gweithredu y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau i chwe phrosiect o dan ei rhaglen 2013-14.

Roedd y rhaglen grantiau’n agored i geisiadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Gofynnwyd i ymgeiswyr roi manylion am sut y byddai eu ceisiadau yn helpu i wireddu amcanion y Cynllun Gweithredu ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg. Dyfarnwyd grantiau 2013-14 i’r prosiectau canlynol:

Canolfan Bedwyr – GALLU: Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch

Bydd y prosiect hwn yn cryfhau’r seilwaith technoleg Gymraeg presennol, drwy ddarparu modiwl newydd ar gyfer llais-i-destun. Bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn gweithio ar gam nesaf y gwaith o ddatblygu technoleg adnabod llais yn y Gymraeg, drwy gael nifer mawr o bobl i gyfrannu at gronfa o leferydd Cymraeg. Yn strategol, mae mawr angen adnodd o’r fath a allai olygu y bydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y gwaith o ddatblygu nwyddau seiliedig ar adnabod llais yn y dyfodol, megis meddalwedd swyddfa a nwyddau a weithredir drwy leferydd. Mae’r prosiect hwn yn cael ei redeg ar y cyd ag S4C.

JOMEC – StoriNi – Creu a rhannu newyddion

Bydd Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn helpu cymunedau i gasglu, cyhoeddi a defnyddio newyddion a gwybodaeth ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny drwy ap a meddalwedd Gymraeg a fydd ar gael am ddim. Bydd yr adnoddau hyn yn caniatáu i aelodau cymunedau daearyddol a chymunedau o ddiddordeb gysylltu â’i gilydd ar-lein, gan sicrhau bod mwy o Gymraeg i’w gweld ar-lein a bod mwy o ddefnydd ohoni.

Partneriaeth Penrhys – Technoleg Fawr mewn Dwylo Bach

Bydd Partneriaeth Penrhys yn cyflogi prentis, gyda chymorth cwmni ymgynghori sy’n datblygu meddalwedd cenedlaethol, i greu dau ap newydd i blant dan 7 oed allu datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Bydd yr apiau’n addas i blant ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg eu defnyddio yn ystod gwersi yn yr ysgol a hefyd yn eu cartrefi os bydd eu rhieni’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â’u plant. Bydd y prosiect yn cynnal gweithdai i ddysgu sgiliau rhaglennu a chodio i bobl ifanc dan 25, a hynny o dan ofal Clwb Codio’r Rhondda. Bydd y prosiect yn cynyddu’r deunydd sydd ar gael yn y Gymraeg a hefyd bydd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn codio apiau.

Prifysgol Aberystwyth – Creu Meddalwedd ar gyfer Apiau Dysgu Cymraeg

Bydd Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn datblygu meddalwedd sy’n cynnig fframwaith i helpu i greu nifer o apiau newydd ar gyfer dysgu Cymraeg. Bydd hynny’n galluogi sefydliadau i gasglu deunydd ar gyfer apiau dysgu Cymraeg newydd heb fawr o gost. Bydd y prosiect yn ei gwneud yn haws datblygu a darparu apiau dysgu Cymraeg drwy rannu templed sylfaenol.

Urdd Gobaith Cymru – Ap Urdd

Bydd yr Urdd yn creu ap (ynghyd â gwefan berthnasol) a fydd yn caniatáu i bobl ifanc rannu, adolygu a dod o hyd i wybodaeth am y digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg sy’n digwydd yn eu cymunedau. Hefyd bydd yr ap yn annog pobl ifanc i drafod yn Gymraeg y profiadau y maen nhw wedi eu cael yng ngweithgareddau’r Urdd, gan sicrhau bod mwy o Gymraeg i’w gweld ar-lein. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg yn annog pobl ifanc 11-25 oed i ddefnyddio technoleg, a bydd yr ap hwn yn ddull o boblogeiddio’n defnydd o’r Gymraeg ar-lein.

Nwdls Cyf

Bydd Nwdls Cyf yn darparu gwasanaeth ar y we a fydd yn coladu cynnwys Cymraeg Twitter mewn un lle, gan wneud y Gymraeg a’r rheini sy’n ei defnyddio yn fwy amlwg. Mae Twitter yn blatfform sy’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer trafod newyddion, diwylliant a chymdeithas mewn amser real. Bydd y wefan yn tynnu sylw at bynciau trendio, pynciau llosg, a hefyd dolenni at gynnwys Cymraeg sy’n cael ei rannu drwy’r platfform, gan annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein.

Bydd y rhaglen grantiau ar gyfer 2014-15 yn agor ar gyfer ceisiadau yn y flwyddyn newydd. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ymgeisio, i’w gweld ar y dudalen ar gyfer grantiau hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.