DATGANIAD I'R WASG - PRESS RELEASE
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
www.dathlu.org
Dydd Iau 22 Gorffennaf 2010
Mudiadau yn croesawu argymhellion adroddiad ar Fesur yr Iaith Gymraeg
Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg wedi croesawu adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Bwyllgor Dedddfwriaeth y Cynulliad sy'n cynnwys nifer o argymhellion i gryfhau
Mesur arfaethedig yr Iaith Gymraeg.
Yn benodol mae'r argymhellion yn cwmpasu galwadau'r Mudiadau ynglŷn â'r angen am ddatganiad clir a di-amwys o ran statws swyddogol i'r Gymraeg, cynyddu grym a rôl yr unigolyn o fewn y Mesur ynghyd a sicrhau rhagor o annibyniaeth i'r Comisiynydd Iaith.
Ymhellach i hynny mae'r adroddiad yn cydnabod galwadau'r Mudiadau ynglŷn â'r angen i gynnwys diffiniad clir am brif amcan swyddogaeth y Comisiynydd, fel sydd eisioes gan y Comisiynydd Plant a Phobl Hyn.
Dywedodd Alun Owens ar ran y Mudiadau, " Yr ydym yn croesawu llawer iawn o gynnwys yr adroddiad ac yn ddiolchgar i aelodau'r pwyllgor am wrando o ddifrif ar ein galwadau.
Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig gan fod yr argymhellion yn arddangos consensws trawsbleidiol clir ynglŷn â'r angen i gryfhau'r Mesur fel ag y saif ar hyn o bryd. Rydym yn falch iawn bod pob plaid yn y Cynulliad, trwy'r adroddiad hwn, nawr yn cefnogi datganiad clir er mwyn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg yn ogystal a'r angen i rymuso unigolion er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg."
Mae Mudiadau Dathlu'r Gymru hefyd yn ymgyrchu dros hawliau statudol i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, ychwanegodd Alun Owens:
"O safbwynt y Mudiadau rhaid pwysleisio y gallai'r argymhellion hyn, o'u gwireddu, fod a goblygiadau pellgyrhaeddol i hyder ein haelodau wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd
gan arwain at normaleiddio'r Gymraeg ledled Cymru. Yn y cyswllt hwnnw yr ydym wrth reswm yn croesawu cynnwys cwmniau telegyfathrebu o fewn cwmpas y Mesur ac yn cymeradwyo'r Gweinidog Treftadaeth a Llywodraeth Cymru'n Un am sicrhau hynny. Dyma enghraifft o'r ffordd y gall un rhan o'r Mesur weddnewid gallu pobl i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd real ac ymarferol iawn."
Dyweodd Ceri Owen ar ran y Mudiadau, "Yr ydym felly yn galw ar y Gweinidog i dderbyn a mabwysiadu'r argymhellion yr ydym ni fel Mudiadau wedi bod yn ymgyrchu drostynt ac sy'n cael eu hatgeu gan y pwyllgor deddfwriaeth, er mwyn sicrhau y bydd y Mesur yn ei chyfanrwydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, nid yn unig ein haelodau ni, ond i bawb sy'n byw yng Nghymru. Hoffwn atgoffa'r Gweinidog iddo roi addewid clir wrth gyflwyno'r Mesur y byddai'n barod i wrando ar bobl Cymru yn ystod y broses ymgynghori. Dyma gyfle euraidd felly i'r Gweinidog Treftadaeth wneud hynny ac i Lywodraeth Cymru'n Un wireddu eu hymrwymiad tuag at y Gymraeg. Ar ran holl aelodau'r Mudiadau yr ydym yn galw arno i gymryd cyfrifoldeb dros y dyletswydd hwnnw."
Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd.
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau – gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:
“Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas. Mae diffyg hawliau ieithyddol a statws swyddogol i’r iaith Gymraeg wrth wraidd y bygythiadau.
“Rydym yn croesawu ymdrechion y Llywodraeth i ddatblygu deddfwriaeth i gadarnhau sefyllfa’r Gymraeg. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r Mesur Iaith Gymraeg drafft eleni mae mudiadau, cyfreithwyr ac arbenigwyr, wedi bod yn unfryd eu barn nad yw'r Mesur ar ei ffurf bresennol yn cyflawni addewidion y Llywodraeth.
“...rydym am weld datganiad diamwys fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, fel nas cafwyd mewn deddfwriaeth flaenorol. Dyma'r cyfle i wneud hyn.”
“Mae tystiolaeth yn dangos y byddai hawliau ieithyddol, statws swyddogol a Chomisiynydd Iaith annibynnol yn gwella gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i'n haelodau ar draws Cymru. Dyma'r gwelliannau yr hoffem i chi fel Gweinidog eu cyflwyno i Fesur yr Iaith Gymraeg."
Yn siarad am y llythyr, fe ddywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr:
"Rydym mewn cyfnod holl bwysig, ac mae'r llythyr hwn yn arwydd o'r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau cynnwys y mesur er lles pawb o bobl Cymru. Fe fydd y llythyr hwn yn ychwanegu at y pwysau arnynt i wireddu eu haddewidion. Bydd rhaid aros i weld a oes gan y weinyddiaeth yr ewyllys gwleidyddol i'w gryfhau neu beidio."
Ychwanegodd yr awdur ac ymgyrchydd iaith Catrin Dafydd:
“Rwy’n croesawu'r ffaith fod y llythyr yma yn ychwanegu at y galwadau oddi wrth gyfreithwyr a bargyfreithwyr mor flaenllaw ac uchel eu parch yng Nghymru sydd o blaid cryfhau'r mesur iaith yn sylweddol. Erbyn hyn, mae yna gonsensws ymysg mudiadau, arbenigwyr ieithyddol ac arbenigwyr cyfreithiol nad yw'r mesur yn ei ffurf bresennol yn gwireddu addewidion y Llywodraeth.
"Mae'n hynod arwyddocaol fod cymaint o fudiadau, yn ogystal ag arbenigwyr ym maes y gyfraith, yn codi'r cwestiwn am ddiffyg datganiad diamwys sy'n rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae'n gwbl glir hefyd nad yw'r mesur arfaethedig yn sefydlu hawliau Cymraeg i unigolion."
09/06/2010

Bu Alun Owens a Ceri Owen yn rhoi tystiolaeth ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg i Bwyllgor Y Cynulliad sy'n ystyried y Ddeddf Iaith. Yn ei dystiolaeth mae'r Mudiadau yn pwyso am gryfhau y mesur er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ar lawr gwlad. "Ein diddordeb mawr ni yw pa effaith gaiff y mesur hwn ar fywydau bob dydd ein haelodau. Yn blant a phobl ifanc ac yn oedolion o bob oed, dros Gymru ben-baladr. Y mae cyfle nawr i roi datganiad o statws swyddogol fel nas cafwyd mewn deddfwriaeth flaenorol. Mae cyfreithwyr a bargyfreithwyr annibynnol yn gytun nad oes gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ar hyn o bryd."
Gellir darllen y dystiolaeth lawn yma > Tystiolaeth
26/05/2010
Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn croesawu cyhoeddi’r mesur iaith newydd. Mae’n hollbwysig bod mesur iaith yn cael ei droi yn ddeddfwriaeth erbyn diwedd y sesiwn yma o’r Cynulliad. Bydd y Mudiadau yn ymateb yn fanwl i gynnwys y mesur wedi cael mwy o amser i’w ystyried.
Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn rhwydaith eang o bobl Cymru sy’n mwynhau gwneud pethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ei amcanion yn cynnwys galw am
Mae Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, CYDAG, Cymuned, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr, Mudiad Ffermwyr Ifanc, RHAG, Undeb Amaethwyr Cymru, UCAC, UMCA, UMCB ac Urdd Gobaith Cymru yn rhan o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg.
04/03/2010
Y bargyfreithiwr Gwion Lewis bu'n arwain sgwrs ar y mesur iaith Gymraeg newydd.
Hefyd bu Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick yn cadeirio trafodaeth drawsbleidiol yn dilyn y cyflwyniad.
ar Dydd Llun, Chwefror 8fed, Y Neuadd, Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am Gwion Lewis
Bu cynrychiolwyr Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn cwrdd â Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru, ar 8 Chwefror 2010. Dyma ei ddatganiad i'r wasg:-
Subject: PETER HAIN MEETS WELSH LANGUAGE GROUP MUDIADAU Monday 8 February 2010
PETER HAIN MEETS WELSH LANGUAGE GROUP MUDIADAU
Secretary of State for Wales Peter Hain today [Monday 8 February] met
Welsh language group Mudiadau 'Dathlu'r Gymraeg' to discuss progress
with the Welsh Language Legislative Competence Order (LCO) after it is
considered at Privy Council this week.
Speaking following the constructive meeting, Mr Hain said: "This is
the first time I have met with Mudiadau and I welcomed the opportunity
to hear their views on the Welsh Language LCO and its next steps. We
had a very warm discussion.
"The Order is important to all people in Wales, Welsh speaking and
non-Welsh speaking, businesses, employees and the voluntary sector.
The Order will be considered at the Privy Council meeting on Wednesday, and once it is made the Welsh Assembly Government will then have the tools to introduce its Measure shortly. "I will continue to work with the Welsh Assembly Government on consent they require from the UK Government for proposals which impact on Minister of the Crown consent. We all play an important role in ensuring that our contribution on the development of Welsh language services continues". Mudiadau 'Dathlu'r Gymraeg' represents 17 organisations and societies in Wales, including the Urdd, Mentrau Iaith Cymru, the Welsh Folk Song Society and Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Alun Ffred Jones AC, Emyr Lewis, Menna Machreth,
Elin Haf Gruffudd Jones, Meri Huws, Gwion Lewis,
Kate Crockett a Catrin Dafydd
Canolfan yr Urdd, Canolfan Mileniwm Cymru,
Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL
Amserlen y Gynhadledd > Rhaglen
Ffurflen Archebu > Ffurflen
Rydym wedi creu ffurflen arlein er mwyn hwyluso'r broses o anfon llythyr i'ch Aelodau Seneddol a’ch Aelodau Cynulliad sy’n cefnogi'r egwyddor o drosglwyddo hawliau deddfu dros y Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad.
Pwyswch yma i lenwi’r ffurflen arlein. Ychwanegwch eich enw, eich cyfeiriad ebost a'ch cyfeiriad, ac yna dewiswch eich etholaeth, a fe anfonwn ni eich neges yn syth at eich Aelod Seneddol a’ch Aelodau Cynulliad. Mae yna lythyr enghreifftiol wedi ei baratoi, ond byddai llythyr personol wedi ei arall eirio gennych yn debygol o fod yn fwy effeithiol.
Pob Hwyl!


Mae'r 17 o fudiadau sy'n aelodau o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg yn croesawu rhannau helaeth o gynnwys y gorchymyn iaith sy'n newydd ei gyhoeddi. Maent yn galw am gefnogaeth i'r Gorchymyn ac yn rhybuddio y byddai ei wanhau yn niweidiol i'r Gymraeg.
Meddai Catrin Dafydd, ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg,
"Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn cynrychioli dau ar bymtheg o fudiadau yng Nghymru. Mae cynnwys y gorchymyn iaith fel y saif hi yn cynnig potensial ar gyfer mesurau iaith a allai wneud gwahaniaeth i hawliau ein haelodau i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u bywydau bob dydd. Mae modd dadlau y gallai'r Gorchymyn fynd ymhellach eto ond un peth sy'n sicr, ni ddylid gwanhau yr hyn sydd eisoes wedi ei nodi yn y Gorchymyn. Dyletswydd ein haelodau ni yma yng Nghymru yw amddiffyn cynnwys presennol y gorchymyn a gwthio am fwy."
Ychwanegodd Catrin Dafydd,
"Byddai gwanhau a lleihau rhychwant y gorchymyn iaith yn anghyfiawnder i hawliau bob un o'n haelodau ni boed nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae dyletswydd ar Aelodau Seneddol ac Aelod Cynulliad i sicrhau eu bod yn amddiffyn cynnwys y gorchymyn ac yn galw am fwy o hawliau i'n haelodau. Hawliau i bawb o bobl Cymru i'r Gymraeg ydy rhain. Ni ddylai fod gan San Steffan yr hawl i warafun yr hawliau hynny i ddinasyddion Cymru. Mae hefyd yn gywilydd clywed fod yna gyrff ac unigolion dylanwadol yng Nghymru yn gwneud ymdrech i wanhau'r cynnwys trwy lobio'n gryf yn erbyn y Gorchymyn yn San Steffan. "
Rhagor o wybodaeth > Newyddion

Daeth torf i'r Senedd yn Nghaerdydd ar 16 Mai i gefnogi Rali Cymdeithas yr Iaith dros roi hawl i Gymru ddeddfu ar yr iaith Gymraeg. Ymhlith y siaradwyr roedd Hywel Teifi Edwards ac Angharad Mair.
Yn ei haraith dywedodd Angharad Mair ei bod am ofyn am faddeuant Cymdeithas yr Iaith am beidio cefnogi'r mudiad yn frwd yn y gorffenol, mae gormod yn euog o ddifaterwch, "Hoffwn alw ar bawb sy'n cael bywyd bras ym myd y cyfryngau i fod yn gefn i'r Gymdeithas ac i ymgyrchu dros hawliau i'r iaith. Mae'n hen bryd i ni fynnu ein hawliau, dydi brwydr yr iaith ddim wedi dod i ben. Rwy'n galw ar bobl Cymru i ymuno yn y frwydr hon."
