Datganiad i'r Wasg 2 Chwefror 2009
Mae'r 17 o fudiadau sy'n aelodau o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg yn croesawu rhannau helaeth o gynnwys y gorchymyn iaith sy'n newydd ei gyhoeddi. Maent yn galw am gefnogaeth i'r Gorchymyn ac yn rhybuddio y byddai ei wanhau yn niweidiol i'r Gymraeg.
Meddai Catrin Dafydd, ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg,
"Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn cynrychioli dau ar bymtheg o fudiadau yng Nghymru. Mae cynnwys y gorchymyn iaith fel y saif hi yn cynnig potensial ar gyfer mesurau iaith a allai wneud gwahaniaeth i hawliau ein haelodau i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u bywydau bob dydd. Mae modd dadlau y gallai'r Gorchymyn fynd ymhellach eto ond un peth sy'n sicr, ni ddylid gwanhau yr hyn sydd eisoes wedi ei nodi yn y Gorchymyn. Dyletswydd ein haelodau ni yma yng Nghymru yw amddiffyn cynnwys presennol y gorchymyn a gwthio am fwy."
Ychwanegodd Catrin Dafydd,
"Byddai gwanhau a lleihau rhychwant y gorchymyn iaith yn anghyfiawnder i hawliau bob un o'n haelodau ni boed nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae dyletswydd ar Aelodau Seneddol ac Aelod Cynulliad i sicrhau eu bod yn amddiffyn cynnwys y gorchymyn ac yn galw am fwy o hawliau i'n haelodau. Hawliau i bawb o bobl Cymru i'r Gymraeg ydy rhain. Ni ddylai fod gan San Steffan yr hawl i warafun yr hawliau hynny i ddinasyddion Cymru. Mae hefyd yn gywilydd clywed fod yna gyrff ac unigolion dylanwadol yng Nghymru yn gwneud ymdrech i wanhau'r cynnwys trwy lobio'n gryf yn erbyn y Gorchymyn yn San Steffan. "
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch
Alun Owens: 02920 635671 neu Tegwen Morris: 07980504374 neu gwybodaethmdg@gmail.com
Nodiadau i'r Golygydd:
Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn cynnwys: Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, CYDAG, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymuned, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr, Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, RHAG, UCAC, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Undeb Amaethwyr Cymru, Urdd Gobaith Cymru.